Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
29 Tachwedd 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol.
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Datganiad gan Sam Rowlands - Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod: Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)
(60 munud)
Dogfennau ategol
Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) (fel y'i cyflwynwyd)
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: Archwilio hen berthynas mewn oes newydd
(60 munud)
NDM8417 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: Archwilio hen berthynas mewn oes newydd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2023.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2023.
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Gweithrediad mesurau interim diogelu'r amgylchedd 2022-23
(30 munud)
NDM8418 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar weithrediad mesurau interim diogelu'r amgylchedd 2022-23, a osodwyd ar 21 Medi 2023.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2023. Ymatebodd Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) ar 30 Hydref 2023.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach
(60 munud)
NDM8420 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 2 Rhagfyr 2023.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi cymunedau a datblygu’r economi leol.
3. Yn croesawu’r toriadau gan Ganghellor y Trysorlys i gyfraniadau yswiriant gwladol, a fydd o fudd i bobl hunangyflogedig o fis Ebrill 2024 ymlaen.
4. Yn annog cymunedau i siopa’n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio pob ysgogiad sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well; a
b) parhau i gefnogi busnesau bach drwy newidiadau i bolisïau caffael ar draws y sector cyhoeddus.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y ffaith bod y Cangellorion dros y blynyddoedd diwethaf wedi camreoli’r economi gan achosi niwed y byddai wedi bod yn bosibl ei osgoi i fusnesau bach sydd bellach yn wynebu costau ynni a chostau morgais uwch o’u cymharu â busnesau o’r un maint mewn economïau tebyg.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu na fydd y toriad arfaethedig i Yswiriant Gwladol yn gwneud fawr ddim i leddfu effaith llusgiad cyllidol ar weithwyr Cymru yn y sector busnesau bach.
Yn gresynu ymhellach fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi israddio ei rhagolygon twf am y ddwy flynedd nesaf, a fydd yn atal ffyniant ein sector busnesau bach a chanolig.
Gwelliant 3 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu:
a) y cymorth y mae busnesau bach ac entrepreneuriaid wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy wasanaethau a mentrau fel Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a’r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes; a
b) dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r economi bob dydd a’r cynnydd a wnaed er mwyn helpu mwy o fusnesau bach i ennill mwy o gontractau ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
9 Cyfnod Pleidleisio
10 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8421 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Pwysigrwydd rygbi llawr gwlad mewn cymunedau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2023